P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jocelle Lovell ac ystyriwyd gan y Pwyllgor am y tro cyntaf yn ystod Hydref 2017, ar ôl casglu 723 o lofnodion ar-lein a 1,032 ar bapur – cyfanswm o 1,755 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i weithredu ymgyrch ddiogelwch ‘addysg
gyhoeddus’ flynyddol i addysgu holl ddefnyddwyr y ffordd sut
i fynd heibio i geffylau a marchogwyr yn ddiogel, ac sy’n
tynnu sylw at y peryglon / canlyniadau o beidio â gwneud
hynny.
Rydym yn ymwybodol o ddeiseb yn y DU gyfan sy’n ymgyrchu dros
lunio cyfraith ar basio ceffylau ar y ffordd yn llydan ac araf
(https://www.change.org/p/uk-govt-make-it-law-to-pass-by-a-horse-wide-and-slow-and-abide-by-our-hand-signals)
ac yn ei chefnogi, ond byddai’n well gennym weld addysg a
dulliau atal yn hytrach na gweld erlyniadau yn dilyn digwyddiad
difrifol neu angheuol.
Mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i fanteisio ar y deunyddiau
a’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn sgîl ymgyrchoedd
presennol fel: ‘Dead Slow’, sef ymgyrch diogelwch ar y
ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain,
(http://www.bhs.org.uk/safety-and-accidents/dead-slow ), tra
bydd yn pwysleisio materion penodol sy’n wynebu defnyddwyr y
ffordd yng Nghymru. Mae’r materion hyn yn cynnwys y
cysylltiadau agos rhwng cymunedau trefol a chymunedau gwledig yng
Nghymru, a phoblogrwydd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. Mewn
cymunedau mwy trefol (e.e. yr ardal gymudo o amgylch Caerdydd), mae
swm sylweddol o draffig sy’n defnyddio ffyrdd gwledig, naill
ai fel llwybr byr neu fel prif lwybr mynediad. Mewn rhannau eraill
o Gymru (e.e. Caerfyrddin a Sir Benfro) ceir mewnlifiad blynyddol o
ymwelwyr nad oes ganddynt lawer o brofiad o weld ceffylau ar y
ffyrdd.
Y cyfan a ofynnwn yw bod gyrwyr yn dynodi marchogwyr fel defnyddwyr
ffyrdd sy’n agored i niwed, a bod yn fwy ystyriol wrth fynd
heibio i geffylau. Rydym yn teimlo mai’r ffordd orau o
gyflawni hyn yw drwy arweiniad Llywodraeth Cymru, yn unol
â’u hymrwymiad i ‘Weithio gyda chynrychiolwyr
o’r gymuned marchogaeth i ddeall eu pryderon ynghylch
diogelwch y ffyrdd a sut i hwyluso ymgysylltiad â
phartneriaid eraill.’ (Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd
Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013)).
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae
Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) yn amcangyfrif bod y diwydiant
ceffylau o werth economaidd o £7 biliwn, a’i fod yn
cyflogi 220,000 - 270,000 o bobl. Mae hyn, ochr yn ochr
â’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig
â marchogaeth ceffylau yn golygu ei fod yn rhan bwysig o
fywyd Cymru. Ond, yn gynyddol, teimlir nad yw llais marchogwyr yn
cael ei glywed.
Byddai llawer o farchogwyr yn dewis peidio â defnyddio
priffyrdd cyhoeddus, ond, gan fod faint o lwybrau ceffylau hygyrch
sydd ar gael yn amrywio ledled Cymru, nid oes fawr o ddewis
ganddynt yn aml iawn.
Mae
Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013)
yn cydnabod bod ceffylau a’u marchogwyr (yn ogystal â
gyrwyr cerbydau ceffylau) yn agored i niwed ar y rhwydwaith ffyrdd,
ac y gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd arwain at ganlyniadau
sy’n bygwth bywyd ar gyfer y ceffyl, y marchog a phobl mewn
ceir a cherbydau eraill. Mae hefyd yn datgan bod yna dystiolaeth
sy’n awgrymu nad oes cofnod manwl o nifer y gwrthdrawiadau
traffig ar y ffyrdd sy’n ymwneud â cheffylau.
Wrth i nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu mewn
lleoliadau gwledig / lled-wledig gynyddu, gwelir cynnydd yn swm y
traffig ar ffyrdd gwledig, sy’n cael eu defnyddio’n aml
gan beiriannau fferm, ceffylau a marchogion. Mae llawer o yrwyr,
newydd a phrofiadol, yn aml nad ydynt yn gwybod am y peryglon
posibl o yrru’n gyflym ar y ffyrdd hyn, ac nid yw llawer yn
gwybod sut i basio ceffylau yn ddiogel. Nid yw’r ffaith bod y
terfyn cyflymder cyfreithiol ar y ffyrdd hyn yn 60 milltir yr awr,
yn golygu ei bod yn ddiogel i yrru ar y cyflymder
hwnnw.
Ar ben hynny, mae tystiolaeth gan Gymdeithas Ceffylau
Prydain (http://www.bhs.org.uk/our-charity/press-centre/news/jan-to-jun-2016/riding-and-road-safety-campaign )
sy’n dangos bod cynnydd o ran y digwyddiadau sy’n
ymwneud â cheffylau, marchogion a cherbydau modur ar y ffordd
ym mis Mehefin. Er bod y rhesymau dros y cynnydd hwn yn
parhau’n aneglur, mae’n bosibl eu bod yn ymwneud
â gyrwyr ar eu gwyliau ar ffyrdd anghyfarwydd mewn
amgylchiadau anghyfarwydd.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru